Pa le,
Y gwnaf fy noddfa dan y ne',
Ond yn ei glwyfau anwyl e',
Y bicell gref aeth tan Ei fron,
Agorodd ffynnon i'm glanhau;
'Rwy'n llawenhau fod lle yn hon.
Gwych sain
Fydd eto am y goron ddrain,
Yr hoelion llym, a'r bicell fain,
Wrth gofio 'rhai'n
caiff uffern glwy':
Cadwynau tynion ânt yn rhydd;
Fe gaed y dydd - Hosanna mwy.
Golch fi
Oddi wrth fy meiau aml eu rhi'
Yn afon waedlyd Calfari,
Sydd heddyw'n llif o haeddiant llawn;
Dim trai ni welir arni mwy,
Hi bery'n hwy
na bore a nawn.
John Roberts 1753-1834 neu Hugh Jones 1749-1825
1-2: Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844 Tôn [288.888]: Dorcas (D J James 1743-1831)
gwelir: |
Where
Shall I make my refuge under heaven?
But in his dear wounds,
The strong spear went under His breast,
A fount was opened to cleanse me;
I am rejoicing that there is room in this.
A brilliant sound
Shall yet be about the crown of thorns,
The sharp nails, and the acute spear,
On remembering those
getting a hellish wound:
Tight chains went free;
The day was got - Hosanna evermore.
Wash me
From my faults of manifold number
In the bloody river of Calvary,
Which is today a flood full of merit;
No ebbing is to be seen upon it ever,
It shall endure longer
than morning and evening.
tr. 2017 Richard B Gillion |
|